beicio.com main page

Reid i Ferched

Dydd Sul 22 Chwefror 2009

Roedd y cwrs datblygu i ferched (gyda 1BIKE1) yn llwyddiant dydd Sadwrn, ag mae i’w weld wedi ysbrydoli nifer o ferched i ddechrau cyfarfod a reidio. Felly maent wedi cytunno y bydd y reid i ferched cyntaf y flwyddyn yma yn Llyn Brennig ar ddydd Sadwrn Mawrth 7fed, gobeithio y bydd yn llwyddiant.

Llwybr Haearn - Chwefror

Dydd Sul 22 Chwefror 2009

100_1106Unwaith eto diwrnod gwych gyda eto dros 25 o blant yn mwynhau diwrmod o hyfforddi ar y Llwybr Haearn a taith yn y goedwig. Mae’n wych gweld gymaint o rieni ag aelodau y clwb yn troi fynnu, mae yn help mawr i hyfforddwyr y clwb, ag yn adio at awyrgylch y diwrnod. Os wnaethoch fwynhau gadewch i’ch ffrindiau wybod a dewch yn llu tro nesa, dydd Sadwrn Mawrth 14. Mi wnaeth rhai o hogia Llanrwst holi am Time Trial, mi fydd hyn yn digwydd ar y Llwybr mis Ebrill, felly digon o amser i chi blant ddechra ymarfer!

Diolch i Mike eto am drefnu, a diolch i hyfforddwyr y clwb am ddod draw i helpu a hyfforddi.

Gwyds

LLWYBR HAEARN 17-01-2009

Dydd Sul 18 Ionawr 2009

100_0946Ar Ddydd Sadwrn 17eg Ionawr gwelwyd sesiwn cyntaf y clwb i blant a phobl ifanc ar y Llwybr Haearn yn Nant BH. Roedd yn lwyddiant mawr gyda 22 o blant yn cymryd rhan mewn sesiynnau hyfforddi ar y trac sgiliau ag yna mynd allan i’r goedwig ag yn taclo rhannau o’r Marin. I gyd roedd tua 40 o bobl yno i helu hyfforddi, neud panad, cymryd rhan neu jyst mynd am reid. Fel arfer rodd awyrgylch gwych gyda pawb yn mynd adra yn gwennu wedi cael diwrnod gwych. Diolch i pawb am droi fynnu, yn enwedig chi wnaeth drafeilio mwy nag arfer. Hefyd diolch mawr i Steve Beech am berswadio ei grwp ddod draw o Llandegla, gobeithio y gwelwn chi eto, a diolch mawr hefyd i Mike Tong am drefnu y diwrnod.