beicio.com main page

Baby Boom Bethesda!!

Dydd Mawrth 3 Tachwedd 2009

Ma na rywbeth yn y dwr yn Pesda ma, neu mi oedd na 9 mis yn ol! Dim un babi ond tri, mi fydd rhaid ni sefydlu cangen Dyffryn Ogwen o’r clwb yn fuan

Llongyfarchiadau i Dafydd (Beech) ag Angharad ar enedigaeth merch ychydig wythnosau yn ol. Mam a Dad a Gwenno yn gneud yn wych. Pwy a wyr falle y gwelwn Gwenno yn dilyn Dad yn mynd Rownd a Rownd y Marin neu yn dilyn Mam i actio yn Rownd a Rownd. Sori joc sal, ond mi oedd rhaid! Ma hi mynd i fod yn waeth ar y fersiwn Saesneg o’r stori yma! Ma partner reidio Daf yn bored yn barod yn disgwyl Daf nol ar y beic ag yn chwilio am ffrindiau newydd i reidio efo, ewch i dudalen digwyddiadau am fanylion

Llongyfarchiadau hefyd i Meirion a Mel ar enedigaeth Bachgen, Gwydion Eryri, na chi enw da! Ag i Bedwyr a Non ar enedigaeth merch, sori dwi ddim yn gwybod yr enw. Mae Meirion a Bedwyr yn gweithio yn swyddfa Menter Iaith yn Llanrwst, Meirion yn roadie a Bedwyr wedi ei weld ar feic mynydd, y ddau ar ryw bwynt wedi bod yn aelodau o’r clwb, amser i chi ail ymaelodi hogia!

Llongyfarchiadau pawb

Gwyds

Cydlynydd Reids

Dydd Sul 27 Medi 2009

Mae’r clwb yn edrych am unryw un i fod yn cydlynu reids. Bydd hyn yn golygu trafod gyda nifer o aelodau y clwb i drefnu calendar o reids am y flwyddyn nesaf.

Fel yr ydych yn ymwybodol mae reids i blant a phobl ifanc wedi bod yn llwyddianus ag o hyn mae’r ochr yma o waith a digwyddiadau y clwb yn gryf. O ganlyniad bod Mike a Beicio Cymru yn gweld yr angen am gyfres o cystadleuthau traws gwlad. Oherwydd bod nifer ohonom wedi bod yn canolbwyntio ar hyn nid ydym wedi gwneud llawer am reids i oedolion. Os oes ganddoch ychydig o oriau y mis i helpu i drefnu fedrwch chi gysylltu a Gwyds ar post@beicio.com.

Llongyfarchiadau!!

Dydd Gwener 24 Gorffennaf 2009

Llongyfarchiadau i Gareth a Sioned am enedigaeth merch,  Nel Grug chydig wythnosau yn fuan ond ma Mam a Nel yn gwneud yn gret. Dwi siwr na fydd yn hir pan welwn Nel ar feic gan fod Dad ag Yncl Giz yn aelodau o’r clwb a bod Mam ag Yncl Aled wedi eu gweld ar feics!

Hwyl Haf

Dydd Gwener 24 Gorffennaf 2009

Bydd diwrnod hwyl haf eleni ar ddydd Sul Awst 23 yn Nant BH o 10am ymlaen. Bydd cyfle i holl aelodau y clwb gael reidio ar y Llwybr Haearn, ni fydd reids swyddogol yn cael eu rhoi ymlaen bydd rhaid i bawb wneud eu trefniadau eu hynain ar y diwrnod lle i fynd. Yn hwyrach yn y prynhawn bydd BBQ, bydd rhaid i chi ddod a’ch bwyd a diod eich hunain. Cyn mynd allan am reid bydda i yn cyflwyno Cynllyn Datblygu y Clwb a bydd cyfle i glywed gan Mike Tong syt mae ei swydd newydd yn ffitio i mewn i’r cynllyn. Wedi hyn bydd cyfarfod swyddogol o swyddogion y clwb.

Diolch

Gwyds

Llongyfarchiadau

Dydd Gwener 24 Gorffennaf 2009

Llongyfarchiadau i Mike Tong ar swydd newydd gyda Beicio Cymru fel Swyddog Datblygu Go-Ride a Beicio Mynydd yn Gogledd Orllewin Cymru. Mae Mike wedi dechrau y swydd ers chydig wythnosau, bydd Mike yn parhau fel is-gadeirydd y clwb ond fel rhan o’i swydd bydd yn ehangu ar ei waith gyda plant a pobl ifanc lleol. Bydd cyfle yn ystod y diwrnod hwyl haf ar Awst 23 i glywed mwy gan Mike.

Mae’r apwyntiad yn swnio yn addawol iawn i ddatblygiad beicio mynydd yn yr ardal, a gobeithio y bydd nifer o brosiectau a  chyfleoudd cyffrous yn dod ohono.

Pob lwc Mike!

Canlyniadau Time Trial Llwybr Haearn

Dydd Mercher 13 Mai 2009

100_1259

Sori nes i ddarllen y canlyniadau yn anghywir! Felly llongyfarchiadau i Iwan Ll. Willis am ennill y Time Trial cyntaf ar y Llwybr Haearn, 5 cylch o bron 500metr o hyd.

Hefyd llongyfarchiadau i Megan Murray am fod yr unig ferch ag felly yn ennill, yn cwblhau 4 cylch.

Amseroedd:

Hogia

1. Iwan Ll. Willis - 14.47 munud
2. Jamie Jones - 15.03
3. Gruff Fon - 15.15
4. Peter Stewart - 17.49
5. Joshua Jones - 18.57
6. Owen Mapleson - 18.12 (3 laps)
7. Arran Murray - DNF

Genethod

1. Megan Murray - 18.33

Agoriad Swyddogol Llwybr Haearn

Dydd Sadwrn 25 Ebrill 2009

imgp5716Ar bnawn Mawrth 7fed Ebrill daeth Alun Ffred Jones (AC) draw i agor y llwybr haearn yn swyddogol. Roedd ef a uwch swyddogion Cyngor Conwy wedi cael argraff dda, yn enwedig aelodau o Beicio Cymru. Roedd presenoldeb dda gan y clwb i wneud yn siwr bod y digwyddiad yn llwyddianus. Diolch i chi gyd am droi fynnu.

Gwyds

Paciau Arweinwyr

Dydd Sul 5 Ebrill 2009

Mae na ddau bac arweinwyr rwan ar gael i’w defnyddio pan da chi yn arwain sesiwn/taith i’r clwb. Maent yn cynnwys pecyn cymorth cyntaf, pwmp, mini-tool, lifars teiars, tiwbs i gyd mewn bagiau cefn neis! Mi fyddant yn cael eu cadw yn y container yn Nant, os da chi isho menthyg nhw cysylltwch a fi.

Gwyds

Gari Fon yn Taclo Tudur!

Dydd Sul 5 Ebrill 2009

Yn ddiweddar bu cwmni teledu Boomerang yn ffilmio Gari Fon yn cystadlu yn erbyn Tudur un o gyflwynwyr Planed Plant ar S4C. Roedd y ddau yn cystadlu yn erbyn eu gilydd ar 3 sialens ar y Llwybr Haearn ar gyfer rhaglen Taclo Tudur, fydd yn cael ei darlledu yn fuan. Wna i ddim dweud pwy wnaeth ennill!

Canlyniadau Answyddogol y Time Trial Aswyddogol

Dydd Gwener 13 Mawrth 2009

1 lap o’r Marin, Mawrth 1af

Simon - 1awr 30mun

Craig - 1awr 39mun

Iwan - 1awr 44mun (dim set am hanner y loop!)

Vets!

Wyn - Canlyniad dan ystyriaeth ymholiad swyddogol!

Merched

Eirian - Canlyniad dan ysryriaeth ymholiad swyddogol

Os da chi ffansi curo yr amseroedd yma edrychwch allan am fwy o time trials!

Os oes na ddigon o ddiddordeb ella na i droi o mewn i gyfres answyddogol o fewn y clwb!