beicio.com main page

Llwybr Haearn

Mae’r Llwybr Haearn yn gylch tua 1km o hyd ar dir Canolfan Awyragored Nant BH. Mae’r trac wedi ei gynllunio ar gyfer dysgu a hyfforddi sgiliau Beicio Mynydd, mae’n cynnwys nifer o risiau ar gyfer ‘drop-offs’, nifer o lwybrau preno arddull ‘North Shore’, ‘table top a nifer o gorneli ‘burms’. Mae yna hefyd si-so a naid o 10metr ar gyfer y rhai mwy anturus!

100b1050

Table Top

North Shore Style Boardwalk

North Shore Style Boardwalk

See-Saw

See-Saw

Mae rhannau o’r llwybr wedi ei graddio, mae’r rhan fwyaf wedi ei raddio yn LAS, rhan fwyaf o’r llwybrau pren, ‘drop-offs’, ‘table top’, a ‘burms’ wedi ei graddio yn GOCH a’r rhannau mwyaf technegol yn DDU

North Shore Style Boardwalk

North Shore Style Boardwalk

I’r rhannau GLAS bydd rhaid i’r reidwyr gael ychydig o brofiad reidio oddi ar ffordd.

I’r rhannau COCH bydd rhaid i’r reidwyr fod yn hyderus yn reidio oddi ar ffordd.

Rhaid i reidwyr ar y rhannau Glas a Coch wisgo dillad addas -  trowsys a top llewis hir, a beic mewn cyflwr da a helmed a menyg.

I’r rhannau DU bydd gan y reidwyr lefel uchel o sgil ag yn brofiadol iawn yn reidio oddi ar ffordd.


Bydd rhaid i reidwyr ar y rhannau Du wisgo dillad beicio addas, padiau penglin a penelin, helmed llawn, menyg a beic da wedi ei gynnal yn dda ag yn addas ar gyfer neidio, e.e. ‘full suspension’.

Bydd sesiynnau ar y Llwybr Haearn yn cael eu goruchwylio ag arwain gan hyfforddwyr cymwys fydd yn edrych ar feics a dillad ar gyfer eu haddasrwydd cyn pob sesiwn, ni fydd y rhai sydd gyda offer addas yn cael caniatad i gymeryd rhan yn y sesiwn.