beicio.com main page

Amdano Ni

83Sefydlwyd y clwb yn ol yn 2006 gan grwp reidwyr brwdfrydig o ardal Llanrwst i annog pobl i fynd allan ar ei beics a mwynhau yr ardal o’u hamgylch. Mae’r clwb yn trefnu nifer o ddigwyddiadau a reidstrwy’r flwyddyn, o deithiau clwb i gystadleuaeth Trailquest i sesiynnau sgiliau i blant. Mae gan ein aelodau ystod eang o allu o rai a dros 20 mlynedd o brofiad i ddechreuwyr, mae ein teithiau yn cael ei addasu i siwtio anghenion a gallu y rhai sydd yn troi fynnu. Mae ein aelodau yn defnyddio eu gwybodaeth helaeth o’r llwybrau a coedwigoedd lleol i  gyfeirio pobl i’r cyfeiriad iawn! Mae ein calendar teithiau yn amrywiol iawn ag yn cynnwys y canolfannau beicio mynydd yn yr ardal (Marin, Penmachno, Coed y Brenin a Llandegla) yn ogystal a mynd a ni ar lwybrau mwy naturiol a gwyllt Eryri. Mae’n aelodau hefyd yn trefnu eu reids eu hunain drwy ein fforwm, gall rhai o’r rhain fod yn fwy epic fel taith 5 diwrnod Gogledd-De a taith 3 diwrnod Dwyrain-Gorllewin Cymru.

100_1212

Mae’r canolfan y clwb yn awr yng Nghanolfan Awyragored Nant BH, ble mae ganddom gwt ar gyfer ein fflyd o 15 beic a threlar. Yma mae ganddom ddefnydd o ystafell dosbarth a cawodydd a thoiledau, a defnydd egscliwsif i drac sgiliau Llwybr Haearn, trac o tua 1km o hyd ar dir y ganolfan wedi ei gynllunio ag adeiladu yn arbennig ar gyfer dysgu a hyfforddi sgiliau beicio mynydd. Rydym yn cynnal sesiynnau misol ar y trac ar gyfer plant a phobl ifanc, mae’r sesiynnau yma yn cael eu cynnal gan ein hyfforddwyr beicio mynydd cymwysiedig. Ar hyn o bryd mae ganddom 15 o hyfforddwyr, gyda blynyddoedd o brofiad dysgu a hyfforddi gweithgareddau awyragored.