beicio.com main page

LLWYBR HAEARN 17-01-2009

Dydd Sul 18 Ionawr, 2009

100_0946Ar Ddydd Sadwrn 17eg Ionawr gwelwyd sesiwn cyntaf y clwb i blant a phobl ifanc ar y Llwybr Haearn yn Nant BH. Roedd yn lwyddiant mawr gyda 22 o blant yn cymryd rhan mewn sesiynnau hyfforddi ar y trac sgiliau ag yna mynd allan i’r goedwig ag yn taclo rhannau o’r Marin. I gyd roedd tua 40 o bobl yno i helu hyfforddi, neud panad, cymryd rhan neu jyst mynd am reid. Fel arfer rodd awyrgylch gwych gyda pawb yn mynd adra yn gwennu wedi cael diwrnod gwych. Diolch i pawb am droi fynnu, yn enwedig chi wnaeth drafeilio mwy nag arfer. Hefyd diolch mawr i Steve Beech am berswadio ei grwp ddod draw o Llandegla, gobeithio y gwelwn chi eto, a diolch mawr hefyd i Mike Tong am drefnu y diwrnod.

Un Ymateb i “LLWYBR HAEARN 17-01-2009”

  1. Meddai admin:

    P’nawn da - this is a test.

Rho Ymateb